Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 6 Tachwedd 2023 |
|
||||
Amser: |
10.30 - 13.10 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(6)2023(10) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Adam Price AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl dros dro Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Tanwen Summers Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 25 Medi.
2 Cyllideb Comisiwn y Senedd 2024-25
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith craffu ar Gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25 gan y Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref. Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid a gwnaethant gymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25 a osodwyd ar 10 Tachwedd.
Roedd naratif y Gyllideb wedi'i ddiwygio o ran costau pensiynau'r Comisiwn ar dudalen 9 yn unol â chais y Pwyllgor Cyllid, a nododd y Comisiynwyr yr argymhelliad i fynd i'r afael â chostau ychwanegol Pensiwn y Comisiwn drwy gais am Gyllideb Atodol.
Byddai dogfen y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25 yn cael ei gosod ar 8 Tachwedd 2023 gyda’r Cynnig Cyllidebol i gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Tachwedd 2023.
3 Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig
Cymeradwyodd y Comisiwn y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig ar gyfer y cyfnod 2024-25 i 2026-27, gydag addasiadau wedi’u gwneud ers iddo ystyried drafft ar 25 Medi.
Croesawodd y Comisiynwyr gynnwys y cynllun gweithlu a nodwyd bod darn o waith ar y gweill i’w wneud gan Gynghorwyr Annibynnol y Comisiwn i archwilio strwythur staffio’r Comisiwn, gan gynnwys meincnodi â seneddau eraill, ac mai Ken Skates fyddai’r Comisiynydd arweiniol ar gyfer y gwaith.
4 Agwedd strategol at gyllidebau ac arbedion
Ystyriodd y Comisiwn y dull y bydd swyddogion yn ei ddefnyddio i ddod o hyd i'r arbedion sydd eu hangen i lenwi’r bwlch cyllid yng Nghyllideb ddrafft 2024-25, a darparwyd gwybodaeth i ddechrau ystyried arbedion cynaliadwy tymor hwy o 2025-26 ymlaen.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai swyddogion yn dod â chynigion ar gyfer llenwi bwlch cyllidebol 2024-25 i gyfarfod y Comisiwn ym mis Ionawr; gan nodi y byddai'r cynigion hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar reoli costau newidiol a’r Gronfa Prosiectau.
Cytunwyd hefyd i fwrw ymlaen â chynigion ar gyfer arbedion cynaliadwy tymor hwy fel rhan o’r broses o ddatblygu cyllideb 2025-26 y flwyddyn nesaf, ar ôl cwblhau cylch cynllunio’r hydref/gaeaf..
5 Diwygio’r Senedd
5.a Gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn a gwaith y Bwrdd Taliadau
Roedd y Comisiwn wedi cytuno, mewn egwyddor, yn gynharach yn y flwyddyn i gais gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol am ddeialog strwythuredig i sefydlu dealltwriaeth ar y cyd o sut y caiff anghenion Aelodau eu cefnogi yn y dyfodol drwy wasanaethau’r Comisiwn a Phenderfyniad y Bwrdd, gan edrych i'r Seithfed Senedd a thu hwnt.
Bu’r Comisiynwyr yn ystyried eu camau nesaf i fwrw ymlaen â’r ddeialog hon a galluogi ystyriaethau strategol o ran sut y byddai Aelodau’n cael eu cefnogi yn y Seithfed Senedd.
Trafododd y Comisiynwyr gyd-ddibyniaeth gymhleth penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd taliadau Annibynnol a'r Comisiwn a dymuniad yr Aelodau am eglurder ynghylch y darpariaethau a wneir ar eu cyfer ac am ddealltwriaeth o'r rhesymau dros benderfyniadau. Roeddent o’r farn y gallai fod cyfleoedd i wneud newidiadau a fyddai’n ei gwneud yn gliriach lle mae’r cyfrifoldebau wedi’u lleoli cyn y Seithfed Senedd ac er mwyn paratoi ar ei chyfer. Fodd bynnag, nododd y Comisiynwyr fod gwerth am arian ac annibyniaeth penderfyniadau yn hanfodol, yn ogystal â chael prosesau adolygu a arweinir gan Aelodau, er na fyddai'n ddymunol dychwelyd at system o Aelodau yn penderfynu ar eu cyflog eu hunain.
Trafododd y Comisiynwyr y byddai rhai agweddau ar Ddiwygio’r Senedd a newid a yrrir gan anghenion yn y dyfodol yn cael eu harwain gan rannau eraill o’r Senedd, e.e. y Pwyllgor Busnes, a bod y cynigion a oedd yn cael eu hystyried yn ddechrau sgwrs a fyddai’n cael ei llywio drwy ymgysylltu â’r Aelodau.
Cytunodd y Comisiynwyr ar y dull a amlinellwyd: y prif feysydd trafod - cydbwysedd adnoddau a'r cysylltiad rhwng gwasanaethau'r Comisiwn ac adnoddau'r Penderfyniad; symleiddio mynediad Aelodau at adnoddau’r Penderfyniad; a chyfleoedd i wella Llywodraethu a’r berthynas rhwng y Bwrdd Taliadau Annibynnol a'r Comisiwn. Gwnaethant gytuno i gynnal trafodaethau pellach yn eu cyfarfod ym mis Ionawr, o bosibl hefyd i ystyried rhai o’r materion yn llai ffurfiol, ac i drafodaethau paratoadol gael eu cynnal gyda phob Comisiynydd yn y tymor byr.
5.b Diweddariad ar Sesiynau Pwyllgor
Rhoddwyd diweddariad llafar byr i’r Comisiynwyr ar sesiynau cychwynnol y Pwyllgor yn ymwneud â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a chawsant wybod bod disgwyl y Bil yn ymwneud â chwotâu rhyw ym mis Rhagfyr.
6 Contract Arlwyo
Bu’r Comisiynwyr yn ystyried opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau arlwyo yn y dyfodol, gan nodi rhesymau’r Bwrdd Gweithredol dros fethu ag argymell dod â’r gwasanaeth arlwyo’n fewnol, yn dilyn eu hadolygiad a dadansoddiad manwl o’r opsiwn hwnnw.
Cafodd y Comisiynwyr drafodaeth ar wasanaethau dan gontract a oedd yn fwy eang na gofynion y contract arlwyo presennol. Roeddent i gyd yn cytuno eu bod mewn egwyddor yn ffafrio darparu gwasanaethau’n uniongyrchol, ac y dylid gwneud darn o waith gyda’r uchelgais o ddod â’r holl wasanaethau dan gontract allanol yn fewnol yn y tymor hwy, gan ystyried y broses Ddiwygio’r Senedd, newidiadau i’r ystâd a defnydd y gellir ei gyfiawnhau o adnoddau cyhoeddus.
Trafododd y Comisiynwyr yr angen i ymgysylltu ag Aelodau ac undebau ynghylch y dull hwn.
Cytunwyd y dylid ymestyn y contract presennol gydag ESS am flwyddyn er mwyn i ofynion gwasanaeth y Seithfed Senedd yn y dyfodol ddod yn gliriach.
Cytunwyd hefyd, yn y tymor byr, y dylid rhoi nodyn i’r Comisiynwyr i roi gwybod iddynt am y pecyn gwell a ddarparwyd i staff y contract arlwyo ar ystâd y Senedd a chadarnhad bod yr ymgynghorydd technegol a ddefnyddiwyd i gynorthwyo gyda’r opsiynau ar gyfer y contract arlwyo wedi adolygu costau staffio mewnol a nodir yn y papur.
7 Adolygiad o’r Polisi Defnydd o'r Ystâd
Ar ôl ystyried y materion a godwyd yn yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad o’r Defnydd o’r Ystâd ym mis Medi, trafododd y Comisiynwyr nifer o gynigion a fyddai’n cael eu defnyddio i ddiweddaru’r polisi ar gyfer defnyddio ystâd y Senedd. Cytunwyd i ymestyn y cyfnod ar gyfer archebu digwyddiadau o chwe mis i 11 mis, a chytunwyd y dylai'r dyraniadau gael eu curadu gan y Tîm Digwyddiadau (yn hytrach na system cyntaf i'r felin), gyda meini prawf i'w cyflwyno i un o gyfarfodydd y Comisiwn yn y dyfodol. Gwnaethant gytuno hefyd y dylai digwyddiadau sydd i ddod ar yr ystâd gael eu cyhoeddi dri mis ymlaen llaw pan fo hynny'n bosibl.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid cynnwys capasiti a hyblygrwydd yn y system i ddiogelu dyddiadau allweddol (byddai’r Comisiwn yn cytuno ar y manylion mewn cyfarfod yn y dyfodol) ac i ddarparu ar gyfer ceisiadau munud olaf am le ar gyfer digwyddiadau yn ymwneud â materion cyfoes/perthnasol.
Mewn ymateb i wybodaeth am awydd Aelodau am ddigwyddiadau a phatrymau defnydd newidiol ar ôl Covid, cytunodd y Comisiynwyr i symud tuag at ddefnyddio un slot digwyddiad premiwm y mis (amser cinio dydd Mawrth neu ddydd Mercher) i dreialu ‘marchnadoedd’ yn y Senedd o’r Pasg ac am weddill 2024, yn lle'r defnydd arferol o Ystafelloedd Ciniawa ar gyfer digwyddiadau 'galw heibio'. Cytunwyd hefyd i dderbyn gwerthusiad o’r dull hwn yn gynnar yn 2025 i gytuno ar safbwynt parhaol. Fodd bynnag, roeddent yn cydnabod y byddai lleoliad llai cyhoeddus yn fwy priodol i rai sefydliadau, ac felly ni ddylai mynediad at Ystafell Giniawa breifat ddod i ben yn gyfan gwbl.
Nododd y Comisiynwyr hefyd barhad y polisi presennol o 10 slot digwyddiadau yr wythnos a’r gwaith i adolygu’r categorïau a’r broses ar gyfer digwyddiadau gan gynnwys y dull a ddefnyddir i wella’r broses gymeradwyo ar gyfer gweithgarwch Llywodraeth Cymru ar yr ystâd; gwaith ar y gweill i gryfhau'r cysylltiadau rhwng digwyddiadau a Busnes y Senedd; a'r dull a awgrymir ar gyfer amseroedd paratoi hirach ar gyfer digwyddiadau ymgysylltu dan arweiniad y Comisiwn.
Byddai'r newidiadau y cytunir arnynt yn rhan o bolisi wedi'i ddiweddaru a'i gyhoeddi ar gyfer gweithgarwch ar yr ystâd.
8 Cynllun Pensiwn yr Aelodau
Ystyriodd y Comisiynwyr lythyr gan y Actiwari Cynllun Pensiwn yr Aelodau a nododd ganlyniadau’r prisiad arferol diweddaraf a’u hargymhelliad ynghylch lefel y cyfraniadau y dylai’r Comisiwn eu talu i’r Cynllun dros y tair blynedd nesaf.
Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i lythyr yr Actiwari.
9 GB News
Cafodd y Comisiynwyr y newyddion diweddaraf am waharddiad diweddar GB News o system deledu fewnol y Senedd. Cymerwyd y camau gan Swyddogion ar gais y Llywydd ar ôl darllediad diweddar gan y sianel a oedd yn fwriadol sarhaus ac yn ddiraddiol i ddadl gyhoeddus ac yn dilyn codi’r mater yn ystod Cwestiynau i’r Comisiwn yn y Cyfarfod Llawn.
Roedd y Comisiynwyr wedi cael gwybod am ohebiaeth a thrafodwyd y safbwynt a gymerwyd. Y casgliad oedd y byddai atal GB News yn parhau tra bod y Comisiwn yn ceisio mewnbwn annibynnol i ddatblygu protocol a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer eglurder a chysondeb ar gynnwys darlledu ar draws ystâd y Senedd yn y dyfodol.
10 Papurau i'w nodi:
10.a Salwch trosglwyddadwy / Mesurau gwytnwch y gaeaf ar Ystâd y Senedd
Nododd y Comisiynwyr yr ymrwymiad i fesurau rheoli risg i gefnogi lles cyffredinol, hylendid a lleihau clefydau trosglwyddadwy; y bydd y Comisiwn yn gweithredu o dan y mesurau rheoli risg cyffredinol a nodwyd yn hytrach na mesurau penodol COVID-19; ac yn ystod tymor yr Hydref, bydd brîff gwylio yn cael ei gadw ar gyfraddau cymunedol COVID-19 ac absenoldeb staff sy'n gysylltiedig â COVID-19 i asesu a oes angen ailgyflwyno'r mesurau Isel, Canolig neu Uchel o’r Fframwaith COVID-19.
10.b Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a ddarparwyd i bob cyfarfod o'r Comisiwn, gan gynnwys crynodeb o swyddi gwag lle roedd y broses recriwtio wedi'i gohirio.
10.c Llythyrau at y Pwyllgor Cyllid
Nododd y Comisiynwyr y llythyrau at y Pwyllgor Cyllid ynghylch y taliad Costau Byw, a chyda gwybodaeth bellach yn dilyn y sesiwn graffu, fel y’i dosbarthwyd y tu allan i’r cyfarfod (ar 3 Hydref 2023 a 10 Hydref 2023 yn y drefn honno).
11 Unrhyw Fater Arall
Gohebiaeth - Nododd y Comisiynwyr fod dwy eitem o ohebiaeth wedi’u derbyn, a chytunwyd i dderbyn gwybodaeth a fyddai’n cael ei dosbarthu y tu allan i’r cyfarfod:
Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Roedd y Pwyllgor Safonau wedi ysgrifennu ynghylch urddas a pharch yn gofyn am wybodaeth am gyfathrebu â defnyddwyr trydydd parti o’r adeilad a'r broses ar gyfer codi cwynion.
Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a gyfeiriodd un argymhelliad i’r Comisiwn.
Urddas a pharch – Cododd Comisiynydd fater pellach mewn perthynas â thrafodaethau’r Comisiwn yn yr haf ynghylch sicrhau bod amddiffyniadau priodol ar waith i’r rheini ar yr ystâd, er mwyn galluogi pobl i gael gweithle diogel a hygyrch. Cytunodd y Comisiwn i ofyn i'r Pwyllgor Safonau am eglurder ynghylch y gwaith y mae'n ei wneud, ar ôl ystyried adolygiad y Comisiwn, ac felly nodi unrhyw feysydd sy'n weddill y mae angen i'r Comisiwn gymryd camau ychwanegol yn eu cylch.